P-04-613
Dylai Aelodau’r Cynulliad wrthod yr argymhelliad
i gynyddu eu cyflogau 18%
Testun y ddeiseb
Gyda phobl sy’n gweithio ar y rheng flaen yn y sector
cyhoeddus yn cael toriadau i’w cyflogau mewn termau real,
rwy’n annog Aelodau Cynulliad i wrthod yr argymhellion i
gynyddu eu cyflog 18%. Drwy dderbyn y codiad cyflog hwn, neu unrhyw
godiad cyflog, tra bod y mwyafrif llethol o weithwyr y sector
cyhoeddus yn wynebu toriadau i’w cyflogau a diswyddiadau,
byddai Aelodau’r Cynulliad yn cyfleu’r neges a ganlyn
i’r bobl y maent yn eu cynrychioli: "Rydym ni’n iawn, o
leiaf, cadwch eich dwylo oddi ar fy mhentwr arian i" (cyfieithiad o
ran o’r gân Money gan Pink Floyd), gyda thoriadau yn y
sector cyhoeddus, rhewi cyflogau a diswyddiadau yn talu am eu
"pentwr" hwy. Hoffwn gynnig fod codiad cyflog Aelodau’r
Cynulliad, rhewi a thorri ar gyflogau yn adlewyrchu’r hyn
sy’n digwydd i weithwyr ym maes addysg, y GIG, yr Heddlu
a’r gwasanaethau cymdeithasol.
Prif ddeisebydd:
David Swain
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
Nifer y llofnodion:
12